Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaethau Corfforaethol

Mae ein gwasanaethau corfforaethol a chynllunio yn rhan annatod o strwythur cyfan y Bwrdd Iechyd Prifysgol ac o'i redeg yn hwylus, ac maent yn cynnwys:

  • Strategaeth a Chynllunio 
  • Cyllid a Pherfformiad
  • Adnoddau Dynol 
  • Ystadau a Chyfleusterau 
  • Gwasanaethau Gwybodaeth a Thechnegol 
  • Cyfathrebu ac Ymgysylltu 
  • Llywodraethu Corfforaethol 

Mae cyfuniad o lywodraethu, atebolrwydd y cyfarwyddwr gweithredol ac uwch reolwyr, a chynnydd wedi'i fapio yn erbyn prosiectau allweddol o fewn meysydd eu harbenigedd, yn gyfrifol am gynnydd y Cyfarwyddiaethau Gwasanaethau Corfforaethol ac am graffu arnynt.

Ein Bwrdd 

Mae'r Bwrdd yn cynnwys 21 aelod, gan gynnwys y Cadeirydd, yr Is-gadeirydd a'r Prif Weithredwr. Mae gennym naw Aelod Annibynnol, bob un ohonynt wedi'u penodi gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Chwaraeon, a nifer o Aelodau Cyswllt.

Y Bwrdd yw injan corfforaethol y Bwrdd Iechyd Prifysgol ac mae'n gyfrifol hefyd am lywodraethu, craffu ac atebolrwydd i'r cyhoedd. Mae bod yn agored ac yn dryloyw yn allweddol i waith y Bwrdd, a chynhelir cyfarfodydd cyhoeddus bob chwe wythnos. Caiff yr agenda a holl bapurau'r Bwrdd eu cyhoeddi ar y wefan.

Ein Trefniadau Llywodraethu

Mae trefniadau llywodraethu cadarn ar waith gan y Bwrdd i sicrhau uniondeb, mae cynlluniau strategol a chyflawni ar waith, caiff risgiau eu lliniaru a'u sicrhau, ac mae'r mesurau rheoli priodol ar waith gennym i reoli sefyllfaoedd corfforaethol a chlinigol.

Caiff y Bwrdd gefnogaeth Ysgrifennydd y Bwrdd, sy'n rhoi cyngor ar lywodraethu corfforaethol ac sy'n sicrhau bod ein safonau statudol a chorfforaethol ar waith ac yn gyfredol.

Llywodraethu Gwybodaeth a chynnal cyfrinachedd cleifion 

Mae amddiffyn cyfrinachedd gwybodaeth cleifion yn hanfodol, ac mae mesurau rheoli caeth ar waith i reoli sut rydym ni'n storio, yn recordio ac yn rhannu data.

Cyfrifoldeb Gwarcheidwad Caldicott yw sicrhau bod data'n cael ei rannu'n briodol yn unig a bod safonau'n cael eu cynnal. Y Cyfarwyddwr Meddygol sy'n ymgymryd â'r rôl hon ar hyn o bryd.

Dilynwch ni