Neidio i'r prif gynnwy
Sara Moseley

Aelod Annibynnol - Trydydd Sector (Sector Gwirfoddol) 

Amdanaf i

Aelod Annibynnol - Trydydd Sector (Sector Gwirfoddol) 

Sara yw Cyfarwyddwr Mind Cymru ac mae'n Gyfarwyddwr Gweithredol Mind. Mae'n cadeirio Cynghrair Iechyd Meddwl Cymru a'r ymgyrch gwrth-stigma, Amser i Newid Cymru. Mae'n ymddiriedolwr Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru.
 
Mae cefndir Sara ym meysydd cyfathrebu, ymgysylltu â'r cyhoedd a llywodraethu, a bu'n Gyfarwyddwr Cyfathrebu i Lywodraeth Cymru ac i ymddiriedolaeth iechyd fawr yn Llundain, ac yn Gyfarwyddwr Bwrdd a Chymorth Corfforaethol i asiantaeth ddatblygu ranbarthol. Mae'n angerddol am alluogi i leisiau a phrofiadau pobl gael eu clywed a'u rhannu, ac am wella mynediad at wasanaethau a chymorth trugarog ac effeithiol.
 
Mae Sara yn siarad Cymraeg yn rhugl. Mae ganddi ferch 21 oed a mab 18 oed, sy'n fyddar, ac fe dderbyniodd fewnblaniad yn y cochlea yn Ysbyty Athrofaol Cymru.

Dilynwch ni