Neidio i'r prif gynnwy
Akmal Hanuk

Aelod Annibynnol - Y Gymuned Leol

Amdanaf i

Aelod Annibynnol - Y Gymuned Leol

Mae Akmal Hanuk wedi byw yng Nghaerdydd ers 20 mlynedd ac mae wedi bod mewn uwch-swyddi rheoli gyda sefydliadau a chyrff corfforaethol lleol, cenedlaethol a rhyngwladol. Mae wedi teithio'n helaeth ac ef yw Sylfaenydd a Phrif Weithredwr Assadaqaat Community Finance UK.
 
Ar hyn o bryd, mae'n Aelod o Dasglu Gweinidogol y Cymoedd, Gweinyddiaeth yr Economi a Thrafnidiaeth Llywodraeth Cymru; mae'n Aelod Annibynnol o Ddŵr Cymru/Welsh Water, Glas Cymru Holdings Cyfyngedig; mae'n Diwtor Busnes Prifysgol yn Ysgol Busnes Caerdydd, ac mae'n Ddarlithydd Gwadd a Phrif Siaradwr ar Entrepreneuriaeth, Strategaeth Fusnes, Cyllid Islamaidd, Safonau a Moeseg mewn Bywyd Cyhoeddus a Llywodraethu Corfforaethol mewn sefydliadau academaidd blaenllaw, ac mewn seminarau a chynadleddau cenedlaethol a rhyngwladol.  

Mae wedi bod yn Gadeirydd ac yn Aelod Annibynnol o Bwyllgor Safonau a Moeseg Cyngor Caerdydd ers 8 mlynedd, ac yn Is-gadeirydd Cyngor Ffoaduriaid Cymru. Roedd yn gyd-sylfaenydd a Chyfarwyddwr Rhaglen y Rhaglen Cymorth i Fusnesau Ethnig, sef menter gan Lywodraeth Cymru i annog menter ymhlith cymunedau, gan gynnig mynediad at gymorth busnes ac ariannol i aelodau pob cymuned yng Nghymru.
 
Mae Akmal wedi'i benodi'n Aelod Annibynnol yn cynrychioli'r Gymuned Leol.

Dilynwch ni