Neidio i'r prif gynnwy
Dr. Fiona Jenkins

Cyfarwyddwr Gweithredol Therapïau a Gwyddor Iechyd

Amdanaf i

Cyfarwyddwr Gweithredol Therapïau a Gwyddor Iechyd

Dr Fiona Jenkins yw Cyfarwyddwr Gweithredol Therapïau a Gwyddor Iechyd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.

Mae Fiona yn ffisiotherapydd gyda phrofiad clinigol a phrofiad rheoli ac arwain sylweddol. Ymunodd â Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn 2010 fel Cyfarwyddwr Gweithredol Therapïau a Gwyddorau Iechyd.
 
Mae gan Fiona PhD sy'n canolbwyntio ar Reolaeth y GIG ac mae hi wedi cwblhau Rhaglen Strategwyr Clinigol y Ganolfan Arweinyddiaeth / GIG INSEAD. Hefyd, mae ganddi MA (Rhagoriaeth) mewn Rheolaeth (Prifysgol Caerwysg). Yn ogystal, mae Fiona yn Gymrawd y Sefydliad Rheoli Gofal Iechyd. Dyfarnwyd Cymrodoriaeth y CSP iddi am ei gwasanaethau i reolaeth ac mae'n gyn-aelod o Gyngor y CSP. Mae wedi arwain ac ymwneud â nifer fawr o arloesiadau i wasanaethau.

Mae ei phortffolio gweithredol yn cynnwys:

Rolau arwain cenedlaethol: Cadeirydd Grŵp Llywio Gofal y Llygaid ac Uwch Swyddog Cyfrifol Rhaglen Digideiddio Gofal y Llygaid, Cadeirydd y Grŵp Gweithredu ar Strôc, Cadeirydd y Grŵp Gwella Iechyd Anadlol, Cadeirydd Grŵp Cymheiriaid y Cyfarwyddwr Therapïau a Gwyddor Iechyd.

Rolau arwain ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro: Eiriolwr y Lluoedd Arfog, a Chadeirydd Fforwm Lluoedd Arfog Caerdydd a'r Fro. Arweinydd gweithredol ar gyfer: Adsefydlu, Strôc, Gofal y Llygaid, Cwympiadau, Anableddau Dysgu, Cyfarpar Meddygol, Dihalogi, Maeth.

Mae gan Fiona ddiddordeb arbennig hefyd mewn datblygu integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol a sicrhau'r ddarpariaeth gofal mewn lleoliadau sylfaenol a chymunedol. Yn ogystal, mae Fiona yn atebol am arwain yn broffesiynol y 1,800 o Weithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd a Gwyddonwyr Gofal Iechyd yn y sefydliad.

Mae Fiona yn darlithio'n genedlaethol ac yn rhyngwladol. Hefyd, mae'n gyd-olygydd 5 llyfr ar reolaeth: “The Allied Health Professions Essential Guides” ynghyd â “Safe and Effective Staffing in the AHPs”.

Dilynwch ni