Neidio i'r prif gynnwy

Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2016

 

Sut bydd yn effeithio ar fy ngofal a'm cymorth?


Mae'r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) yn ddeddf newydd a fydd yn rhoi mwy o lais i chi o ran y gofal a'r cymorth rydych chi'n eu cael.

I'ch cynorthwyo chi i gyflawni llesiant, byddwch chi'n gwneud penderfyniadau am eich gofal mewn partneriaeth â gweithwyr proffesiynol.
I'ch helpu i wneud hynny, bydd gwybodaeth a chyngor am yr hyn sydd ar gael yn eich ardal ar gael i chi'n hawdd.

Bydd gan ofalwyr yr un hawl i gael asesiad cymorth â'r bobl maen nhw'n gofalu amdanynt, a bydd gan fwy o bobl hawl i Daliadau Uniongyrchol.  

Bydd proses asesu newydd ar gyfer gofal a chymorth yn seiliedig ar yr hyn sy'n bwysig i chi fel unigolyn. 
Bydd yn ystyried eich cryfderau personol a'r cymorth sydd ar gael i chi gan eich teulu, eich ffrindiau ac eraill yn y gymuned. 

Bydd yr asesiad yn symlach a gall un person ei gynnal ar ran amrywiaeth o sefydliadau.

Bydd mwy o wasanaethau i atal problemau rhag gwaethygu, fel bod yr help cywir ar gael pan fydd arnoch ei angen.

Hefyd, bydd pwerau cryfach i gadw pobl yn ddiogel rhag camdriniaeth neu esgeulustod yn cael eu cyflwyno. 

Daw'r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) i rym ym mis Ebrill 2016.
Byddwch yn cymryd rhan yn y broses newydd ar ddyddiad yr asesiad nesaf sydd wedi'i drefnu i chi.

I gael rhagor o wybodaeth am y Ddeddf, ewch i wefan Llywodraeth Cymru.

 

Dilynwch ni